
Alun Roberts
Cefndir a Phrofiad
Ganed Alun ym Mangor a chafodd ei fagu ym mhentref Moelfre, Ynys Môn. Mynychodd Ysgol Syr Thomas Jones Amlwch, Coleg Technegol Gwynedd, Bangor a’r Coleg Normal ym Mangor. Yn dilyn ei radd mewn Gweinyddu Busnes yn y Coleg Normal sicrhaodd ei swydd gyntaf fel y Swyddog Gwybodaeth i Dwristiaid cyntaf erioed i Gyngor Ynys Môn. Oddi yno aeth i’r sector preifat lle bu’n rhedeg asiantaeth gosod eiddo gwyliau ac yna daeth yn gynghorydd ariannol annibynnol.
Mae hefyd wedi gweithio yn y diwydiant adeiladu cyn symud i fyd cefnogi pobl i mewn i waith a hunangyflogaeth – yn gyntaf yn CTF Training Llangefni ac yna wedi hynny ym Mhrifysgol Bangor, Working Links a Chymunedau’n Gyntaf (Caergybi).
Roedd ei brofiad cyntaf mewn byd mentrau cymdeithasol gyda Chwmni Cydweithredol Pentref Llanfairpwll – a sefydlwyd i geisio prynu’r orsaf reilffordd yn Llanfair PG gan British Rail yn yr 1980au. Trwy’r cyhoeddusrwydd byd-eang a gynhyrchwyd gan ymdrechion y fenter, cafwyd diddordeb yn safle’r rheilffordd ac o ganlyniad Alun oedd y person cyntaf ar Ynys Môn i gwrdd â Mr. James Pringle – a oedd wedi gweld eitem ar raglen deledu Brecwast ar yr orsaf. Yn y pen draw, prynodd Mr Pringle safle’r rheilffordd ac adeiladodd yr hyn sydd bellach yn siop Pringle’s yno. Er gwaethaf y ffaith nad oedd y fenter gymdeithasol yn berchen ar y safle, dysgodd Alun lawer am sut i ddod â phobl ynghyd i daclo problem gymunedol.
Dros y blynyddoedd mae Alun, trwy ei waith i Gymunedau’n Gyntaf (Plas Cybi a Môn CF), wedi helpu nifer o grwpiau lleol i sefydlu a sicrhau cyllid trwy ei gefnogaeth. Roedd hefyd yn rhan flaenllaw tu ôl i Fenter Siopau Gwag Caergybi – a helpodd i ddod â bywyd yn ôl i ganol y dref. Mae hefyd yn cadeirio grŵp Gorymdaith Dydd Gŵyl Dewi yng Nghaergybi a Fforwm Busnes Caergybi. Mae Alun yn byw yng Nghaergybi.
Arbenigedd
Ar hyn o bryd mae’n uwch reolwr ym Môn CF ac mae’n gyfrifol am gefnogi busnesau newydd ar yr ynys yn ogystal â helpu grwpiau lleol i wneud ceisiadau am gyllid.
Mae bellach yn arwain ymgyrch i ddod â Thrên Tir i’r ynys ac mae’n gobeithio gwireddu hyn erbyn 2021.
