Cwestiynau Cyffredin
Mae Bro Môn yn gwahodd mentrau a sefydliadau i fanteisio ar ei arbenigedd, gwybodaeth a phrofiad ymarferol i helpu gyda:
- sefydlu eu mentrau, gan gynnwys cyngor ar strwythur sefydliadol;
- sut i gael cyllid;
- ysgrifennu ceisiadau am gyllid;
- lobïo i gefnogi’r fenter;
- cyfeirio at eraill, neu gynnwys eraill, a all gynnig cefnogaeth ychwanegol i fentrau newydd, mentrau a sefydliadau presennol fel Busnes Cymru, Canolfan Cydweithredol Cymru a’r holl sefydliadau datblygu cymunedol-ganolog hynny ar yr Ynys gan gynnwys Menter Môn, Medrwn Môn, Cymunedau Ymlaen Môn, Cynghorau Tref a Chymuned, a Chyngor Sir Ynys Môn.
Yn syml, llenwch y ffurflen Cysylltu â Ni ar-lein ar ein gwefan.
Mae’r gwasanaeth gyda Bro Môn yn dechrau gyda thrafodaeth gyda darpar gleient a chynnig cyngor sylfaenol – nid oes unrhyw dâl am hyn. Os oes angen cefnogaeth bellach dim ond ar ôl trafod a chytuno â chleient y codir unrhyw dâl am wasanaethau.
Ydy, mae Bro Môn yn gweithio gyda sefydliadau eraill a bydd ond yn cyfeirio at y sefydliadau hynny os credir y bydd hynny o ddefnydd ac y cytunir arno gan y cleient. Mae’r rhan fwyaf o sefydliadau Bro Môn yn gweithio gyda, neu’n cyfeirio atynt, yn gweithredu ar sail debyg o ddim tâl oni bai bod angen gwneud hynny a dim ond wedyn ar ôl trafod a chytuno â’r cleient.
Ydy, mae Bro Môn yn credu bod hon yn ddogfen allweddol ar gyfer helpu cleient. Bydd y cytundeb yn nodi pwrpas cytunedig y gefnogaeth gan gynnwys rhaglen weithgaredd i gynorthwyo cleient.
Cydnabyddir pob ymholiad ar-lein ar ôl ei dderbyn a bydd galwad ddilynol yn cael ei gwneud cyn pen 2 ddiwrnod gwaith i drafod y camau nesaf.
Byddwch, nod Bro Môn yw penodi Cyfarwyddwr arweiniol sydd â phrofiad perthnasol i gynorthwyo pob cleient yn seiliedig ar ei ymholiad. Bydd y sawl o Bro Môn sy’n arwain ar eich ymholiad yn cynnwys Cyfarwyddwyr eraill yn ôl yr angen ac yn cytuno â’r cleient.
Mae gwasanaethau Bro Môn yn gyfrinachol a byddant yn cydymffurfio’n llwyr â rheoliadau GDPR a Pholisi Preifatrwydd y cwmni – sydd ar ein gwefan.
Oes, mae gan Bro Môn Weithdrefn Gwyno ffurfiol a gyhoeddir ar ein gwefan.
Braich gyfeillgar o amgylch yr ysgwydd gan grŵp o Gyfarwyddwyr sydd yn meddu ar brofiad sy’n golygu eu bod yn gallu rhoi arweiniad a chyngor synhwyrol i’w gleientiaid. Fe’ch gwahoddir hefyd i ddod yn aelod o Bro Môn, mae budd bod yn Aelod wedi’u rhestru ar ein gwefan.