Gwasanaethau Bro Môn

Bydd Bro Môn, gan ddysgu o brofiad Cwmni Bro Ffestiniog, yn darparu cyfleoedd newydd i rannu na fyddai ar gael fel arall i fentrau cymdeithasol, mentrau neu sefydliadau unigol oherwydd cyfyngiadau ar eu maint, eu strwythur a’u hadnoddau.

Bydd Bro Môn yn hwyluso rhannu:

  • adnoddau, gan gynnwys y posibiliadau ar gyfer rhannu staff a / neu wirfoddolwyr;
  • sgiliau;
  • profiadau ac arbenigedd;
  • y gallu i gyflawni cyfleoedd prosiect mwy;
  • syniadau ar gyfer marchnadoedd newydd;
  • gwybodaeth; a
  • syniadau ar sut i gael gafael ar gyllid grant a nawdd, naill ai’n unigol neu ar y cyd, wedi’u selio ar geisiadau o ansawdd uchel.

Bydd Bro Môn yn cynnig i’w gleientiaid cyfle i:

  • gael sgwrs cychwynnol yn brydlon yn dilyn ymholiad;
  • greu cytundeb ffurfiol ynghylch unrhyw gyngor neu waith pellach sydd i’w wneud;
  • benodi Cyfarwyddwr dynodedig a fydd yn goruchwylio’r berthynas cleient;
  • ffurfio cynllun ysgrifenedig ar gyfer gweithredu, cyngor neu eiriolaeth; ac a
  • dderbyn gwasanaeth cyfrinachol.

Bydd Bro Môn yn ymwybodol o’r peryglon cyffredin canlynol ac yn ceisio eu lliniaru:

  • diffyg eglurder ynghylch y gwasanaeth sydd i’w ddarparu i’r cleient;
  • dim mesurau diogel perthnasol pan fydd pethau’n mynd o chwith;
  • oedi amser; a
  • diffyg tryloywder ac ymddiriedaeth.

Felly, bydd Bro Môn yn:

  • defnyddio cyfathrebiadau clir a thryloyw gan hwyluso ymddiriedaeth, didwylledd a gonestrwydd rhwng aelodau;
  • edrych am werthoedd a rennir wrth weithio gyda chleientiaid;
  • bod yn glir o ran pwrpas, nodau ac amcanion;
  • bod yn realistig ynghylch costau, os ydynt yn berthnasol;
  • bod yn realistig ynghylch y risgiau a’r materion sydd i’w hwynebu;
  • defnyddio cymorth arbenigol yn briodol;
  • dogfennu cytundebau, rolau a chyfrifoldebau yn glir.