Gweledigaeth, Cenhadaeth a Gwerthoedd
Ein Gweledigaeth yw defnyddio ein sgiliau, arbenigedd a phrofiad ar y cyd i greu, datblygu a chefnogi adeiladu mentrau a sefydliadau cymunedol cydnerth ledled Ynys Môn, a dod yn uchel ei barch am lobïo awdurdodau statudol ac asiantaethau cyllido am fargen well yn ogystal â gwell cynnwys polisi er mwyn galluogi cynnydd ddigwydd.
Ein Nod yw darparu “y fraich o amgylch yr ysgwydd” ar gyfer unrhyw fenter egnïol, neu fenter mewn unrhyw ran o Ynys Môn sy’n ceisio cyflwyno syniad newydd sbon neu ddisodli darpariaeth y gwasanaethau lleol hynny na all yr Awdurdod Lleol eu darparu mwyach oherwydd pwysau mesurau cyni parhaus ac ar hyn o bryd effeithiau pandemig Covid-19.
Ein Gwerthoedd yw’r pethau hynny sy’n hwyluso cyflwyno gwasanaeth cleientiaid yn seiliedig ar ein tair egwyddor graidd sef Eiriolaeth, Cyngor a Gweithredusef:
- Hygyrchedd
- Uniondeb
- Empathi
- Adeiladu gwytnwch a chynaliadwyedd
- Parch
- Cydweithio a phartneriaeth
- Braich gynorthwyol rownd yr ysgwydd i bawb