Fideos Bro Môn

Mae’r fideos ar y dudalen hon yn tynnu sylw at rai o’r mentrau trydydd sector y mae cyfarwyddwyr Bro Môn wedi helpu i’w cyflawni.

Iorwerth Arms

Yr unig Dafarn Gymunedol yn Ynys Môn, sy’n gweithio’n galed i’r gymuned –https://www.facebook.com/BryngwranCymunedol/

Canolfan Beaumaris

Cynnig gweithgareddau hamdden, llogi ystafelloedd a mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd – http://canolfanbeaumaris.org.uk/

Parc Sglefrio Llangefni

Parc Sglefrio ynghyd â champfa awyr agored, waliau dringo a phêl-fasged, gan helpu i leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol – https://www.facebook.com/groups/1031414863552770

Trên Bach Caergybi

Môn CF a pheilot Trên Tir Caergybi – sy’n cysylltu atyniadau Caergybi gyda’r Dref a’r Parc Morglawdd – profiad gwych i’r teulu i gyd ac i ymwelwyr. – https://www.facebook.com/HolyheadLandTrain/

Gen I Atoch Chi

South Stack Ltd a Grŵp Etifeddiaeth John Cave yn archwilio ffyrdd o rannu ac arddangos ein gorffennol wrth ddathlu un o’n arwyr lleol – John Cave MBE – hanesydd a chasglwr brwd.

SiniMôn

SiniMôn – profiad sinema symudol yn hyrwyddo rhyngweithio cymdeithasol a chyfleoedd dysgu i grwpiau cymunedol.