Cefndir

Yn ystod 2018/19 trefnodd Menter Môn i fentrau cymdeithasol a sefydliadau cymunedol sydd â diddordeb yn Ynys Môn gymryd rhan yn rhaglen “Enterprising Solutions” Cymdeithas Ymddiriedolaethau Datblygu yng Nghymru. Daeth y rhaglen hon, a ddyluniwyd i helpu sefydliadau cymunedol i sefydlu a rhedeg mentrau cymunedol llwyddiannus, â grŵp o fentrau cymdeithasol ynghyd. Penderfynodd chwech ohonynt y byddai cyfuno eu sgiliau, eu doniau a’u profiad ar y cyd o fudd sylweddol wrth helpu unigolion a grwpiau ar Ynys Môn, a oedd wedi naill ai newydd sefydlu neu’n ystyried sefydlu menter gymunedol. Dyma oedd genesis yr hyn a oedd i ddod yn Bro Môn.

Roedd y grŵp yma’n cydnabod fod Ynys Môn yn newid. Mae mentrau cymunedol, mentrau lleol a mentrau cymdeithasol yn cynyddu ar draws yr ynys, ar yr un pryd ag y mae gwasanaethau a chyfleusterau – sydd yn derbyn arian cyhoeddus – yn wynebu toriadau cyllid. Mae’r sefyllfa hon yn debygol o barhau a gwaethygu gan effeithiau andwyol pandemig Covid-19 ar yr economi. Felly mae arwyddocâd mentrau sy’n cael eu creu o fewn cymunedau – busnesau cymdeithasol newydd, grwpiau gweithgareddau lleol, cymdeithasau, hybiau, cyfleusterau hamdden – yn tyfu. Yn fwy na hynny, gyda lleihad yn y cyfleoedd am waith ar yr ynys – er enghraifft colli cwmnïau fel Rehau yn ddiweddar ac atal gorsaf bŵer Wylfa Newydd – mae mentrau cymdeithasol newydd o’r fath yn bwysicach fyth yn yr economi leol. Ar yr un pryd, mae’r galwadau ar gyrff sy’n rhoi grantiau a’u rhaglenni arianu yn golygu ei bod hi’n anoddach cael gafael ar gymorth grant ar gyfer grwpiau cymunedol sydd heb arbenigedd wrth law.

Penderfynodd y grŵp gynnal ymchwil bellach i brofi pa mor ymarferol oedd sefydlu grŵp ffurfiol ar y cyd. Ymwelwyd â Bro Ffestiniog, sefydliad tebyg sydd yn dod a nifer o fentrau at ei gilydd ac sydd wedi’i hen sefydlu i hyrwyddo, helpu a chefnogi mentrau cymunedol. Roedd yr ymweliad yn gyfle i rannu gwybodaeth ynghylch sut y gall gweithio ar y cyd, er nad yw model Bro Ffestiniog yr un model yn llwyr ag y rhagwelwyd ar gyfer Ynys Môn, weithredu’n llwyddiannus er lles y gymuned. Er mwyn asesu’r diddordeb yng nghysyniad cynyddol Bro Môn, penderfynwyd cynnal cyfarfod gyda Phrif Weithredwyr ac Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn. Roedd croeso positif i’r syniad a rhoddodd yr hwb angenrheidiol i fynd ati i sefydlu cwmni yn ffurfiol i ymateb i’r holl heriau a nodwyd uchod. Ymgorfforwyd Bro Môn fel cwmni menter gymdeithasol wedi’i gyfyngu trwy warant ym mis Chwefror 2020 ac mae’n bwriadu cynorthwyo a chefnogi mentrau cymunedol, mentrau a sefydliadau ledled Ynys Môn, mewn ffyrdd sy’n gwella eu heffeithiolrwydd ac yn hyrwyddo nodweddion Deddf Lles a Chenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, yn ogystal â pholisi lleol lle bo hynny’n berthnasol.