Mike Gould

Cymwysterau

  • LLB (Anrh)
  • BL

Cefndir a Phrofiad

Ganed Mike yn Lugwardine ac mae wedi byw yng Nghaergybi ers 29 mlynedd. Ar ôl graddio o Goleg yr RAF Cranwell, dilynodd Mike yrfa yn yr RAF, gan wasanaethu gartref a thramor, cyn dewis gadael yn 38 oed fel Arweinydd Sgwadron. Ail hyfforddodd fel Peilot Masnachol yng Nghanada, ac yna trodd yn CPL / IR yn y DU.

Ar ôl dychwelyd i’r DU 29 mlynedd yn ôl, cytunodd i helpu i sefydlu a gweinyddu, am gyfnod o 6 mis, Canolfan Gelf Ucheldre yng Nghaergybi -sydd erbyn hyn yn hynod lwyddiannus. Yn anffodus, daeth yn waith llafurus i ddatblygu’r prosiect gyda phwyslais ar ddenu cyfalaf mawr ac adnewyddu adeiladau. Mae’n parhau fel ei Reolwr Cyffredinol / Cyfarwyddwr Artistig, ac ar hyn o bryd mae’n cychwyn ar gynllun uchelgeisiol ar gyfer adeiladau newydd i wella’r cyfleusterau at gyfer defnydd y gymuned leol. Mae yna frwydr flynyddol i sicrhau refeniw hefyd gan fod angen i’r Ucheldre godi 60% o’i incwm drwy roddion, a drwy ei adnoddau ei hun.

Fe’i penodwyd i Fwrdd Holyhead Boatyard Ltd ym mis Ionawr 1998 fel cyfarwyddwr anweithredol gyda rôl gynyddol yn delio, yn benodol, ag agweddau cyfreithiol a chytundebol gweithgareddau’r Grŵp sy’n amrywio ledled y byd ac sy’n cynnwys trosiant blynyddol o c£25M.

Mae cyfraniadau eraill Mike yn cynnwys bod yn Gadeirydd ac Aelod Sylfaenol Fforwm Celfyddydau Ynys Môn sy’n ceisio hyrwyddo bywyd diwylliannol ac artistig yr ynys. Hefyd mae’n aelod o Gymdeithas Atyniadau Ynys Môn.

Arbenigedd

Yn brofiadol mewn rhedeg menter gymdeithasol elusennol; sefydliad celfyddydol prysur sydd ag angen cyson i godi arian, a chario ‘mlaen. Gwybodaeth am agweddau ar gyfraith fasnachol a morol, cyllido, llywodraethu corfforaethol a bancio fel rhan o fusnes bach a chanolig. Profiad fel aelod o Fwrdd a gweithredu fel Ysgrifennydd Cwmni. Yn brofiadol mewn cynnal digwyddiadau gan gynnwys Wythnosau Celf Ynys Môn: Open Studios. Yn brofiadol mewn sicrhau cyllid cyhoeddus a phreifat a chyflawni prosiectau.