Alwyn Rowlands

Cefndir a Phrofiad

Ar hyn o bryd mae Alwyn yn Gadeirydd Cwmni Canolfan Hamdden Biwmares ac yn 2012 bu’n allweddol yn ffurfio’r Fenter Gymdeithasol a gymerodd drosodd redeg y Ganolfan gan y Comisiynwyr oedd ar y pryd yn rhedeg Cyngor Sir Ynys Môn.

Wedi’i eni a’i fagu ym Mangor mae wedi byw ym Miwmares ers 54 mlynedd ac ar hyn o bryd mae’n aelod o Gyngor Tref Biwmares. Roedd hefyd yn aelod o Gyngor Sir Ynys Môn rhwng 2013 a 2017, gan ddewis peidio â sefyll yn Etholiad diwethaf y Cyngor.

Mae ganddo flynyddoedd lawer o brofiad gyda Datblygu Cymunedol Rhanbarthol a Lleol yn deillio o’i flynyddoedd lawer fel Swyddog Rhanbarthol Llawn Amser ar gyfer yr hyn sydd bellach yn Undeb Unite.

Mae hefyd yn Is-gadeirydd Cynghrair Seiriol, sy’n sefydliad sy’n cynnwys cynrychiolwyr Cymuned a Chyngor o fewn Ward Etholiadol Seiriol.

Mae hefyd yn Gadeirydd Bwrdd Ymddiriedolwyr Cyngor ar Bopeth Ynys Môn.

Mae Alwyn bob amser yn barod i gynorthwyo unrhyw Grŵp Cymunedol neu Fenter Gymdeithasol i hyrwyddo eu huchelgeisiau ar ran eu Cymuned Leol.