Peter Davies OBE

Cymwysterau

  • BSc (Anrhydedd Dosbarth 1af)
  • Dip PG (Gweinyddu Busnes)

Cefndir a Phrofiad

Cafodd Peter ei eni a’i fagu yng Nghaerdydd. Ymddeolodd yn 2008 ar ôl treulio 43 mlynedd yn y Gwasanaeth Sifil. Ychydig cyn ymddeol roedd wedi bod yn Rheolwr y Rhaglen ar gyfer cyflwyno’r Canolfannau Gwaith gwerth £ 2 biliwn yn genedlaethol a Phennaeth Dylunio Busnes y Ganolfan Waith.

Ar hyn o bryd mae Peter yn:

  1. Gadeirydd Bwrdd Cyfarwyddwyr Bro Môn;
  2. Ysgrifennydd y Cwmni a Chyfarwyddwr Menter Gymdeithasol Llangefni gyda chyfrifoldeb am Farchnad y Dref ac am y Parc Chwaraeon Trefol ym Mhlas Arthur, a llwyddodd i reoli’n llwyddiannus y prosiect cyfan ac ysgrifennodd y ceisiadau am grantiau a gododd £400k mewn cyllid gan y Loteri Fawr ac Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn;
  3. Ymddiriedolwr yn Ymddiriedolaeth Colofn Ynys Môn, yn gweithio gyda’r Bwrdd i godi oddeutu £ 1m i adfer ac adnewyddu’r Golofn yn Llanfairpwll;
  4. Cyfarwyddwr a Rheolwr Cyffredinol Clwb Pêl-droed Tref Llangefni, yn gweithio ar gynllun i ailddatblygu stadiwm Cae Bob Parry ar gost o oddeutu £500k;
  5. Rhedeg SiniMôn;
  6. Aelod o Bartneriaeth Ynys Môn sy’n cymeradwyo gwariant ar raglen LEADER Menter Môn;
  7. Yn falch iawn o fod yn Is-gadeirydd Bwrdd Llywodraethwyr yng Nghanolfan Y Bont, Llangefni.

Arbenigedd

Ysgrifennu Cynigion am Grantiau, Gweinyddu Busnes, Rheoli Newid, Ymchwil Polisi, Cynllunio, Rheoli Prosiectau / Rhaglenni a Pholisi Cymdeithasol.